Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae’r achos yn erbyn y pêl-droediwr, Ched Evans, sy’n wynebu honiad o dreisio, wedi dechrau yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae’r chwaraewr, 27 oed, a arferai chwarae i Gymru ac sydd bellach wedi arwyddo cytundeb gyda chlwb pêl-droed Chesterfield, wedi’i gyhuddo o dreisio dynes mewn gwesty ger Y Rhyl ym mis Mai 2011.
Mae Ched Evans, sydd hefyd wedi chwarae fel blaenwr i Ddinas Manceinion a Sheffield, yn gwadu’r cyhuddiadau.
Mae disgwyl i’r achos yn Llys y Goron Caerdydd barhau am bythefnos, gerbron y Barnwr Nicola Davies.
Fe wnaeth Ched Evans bledio’n ddieuog yn ystod gwrandawiad ym mis Mai.
Mae’r achos yn parhau.