Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Roedd cyn-bennaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrth dditectifs fod yr honiadau yn ei erbyn am gam-drin plant yn rhywiol yn “sothach llwyr” cyn iddo wrthod ateb cwestiynau pellach ar y mater, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw.

Dywedodd Gordon Anglesea, 79 oed, wrth y swyddogion ei fod yn dad i bump o blant ac yn gwadu unrhyw dueddiadau cyfunrywiol neu ddiddordeb mewn dynion ifanc.

Mae Gordon Anglesea o Fae Colwyn yn gwadu tri achos o gam-drin rhywiol yn erbyn un tyst; ynghyd ag achos arall o ymosodiad anweddus ar ail ddyn.

Mae’n debyg y byddai’r ymosodiadau honedig wedi digwydd rhwng 1982 ac 1987 pan fyddai’r ddau ddioddefwr yn 14 ac 15 oed.

Cefndir

 

Clywodd y llys fod Gordon Anglesea yn bennaeth ar ganolfan y Swyddfa Gartref yn Wrecsam a oedd yn cynnig hyfforddiant a gwersi i fechgyn ifanc ar brynhawniau Sadwrn.

Ar y pryd, roedd e hefyd yn Arolygydd gyda Heddlu’r Gogledd yn Wrecsam, ac mae un o’r tystion yn honni iddo orfodi’r bechgyn i wneud ymarfer corff yn noethlymun.

Mae hefyd honiadau am dri ymosodiad yn y ganolfan pan wnaeth Gordon Anglesea dargedu “y bachgen olaf i fynd i’r gawod” ar ôl ras traws gwlad.

Clywodd y llys hefyd gan ail dyst oedd yn honni iddo gael ei gam-drin gan y pedoffeil John Allen yng nghartref gofal Bryn Alyn yn Wrecsam.

Dywedodd ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan nifer o oedolion yn y cartref.

Cafodd Allen ei garcharu am oes yn 2014 am gam-drin 18 o fechgyn ac un ferch, a chlywodd y llys fod yna gyswllt rhwng John Allen a Gordon Anglesea.

Achos yn parhau

Clywodd y llys hefyd fod y dioddefwyr wedi dilyn bywyd “trwblus” yn cynnwys alcohol, cyffuriau, cam-drin a throsedd, ac mae Gordon Anglesea yn dweud fod yr honiadau yn “gelwyddau ac yn ddyfeisiadau.”

Derbyniodd Gordon Anglesea £500,000 gan lys yn 1991 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o gam-drin rhywiol, ac mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Mae’r achos wedi’i ohirio tan fore dydd Mawrth.