Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth i’w helpu i gael hyd i deulu cyn-longwr a fu farw ddechrau’r wythnos.

Cafwyd hyd i gorff Gwilym John Jones, 66 oed, yn ei gartref yn Tawe Avenue, Abertawe, ar 24 Medi.

Er bod ganddo ychydig o deulu’n lleol, mae’r heddlu’n credu bod rhagor o aelodau ei deulu yn byw yn ardal Wrecsam, ac maen nhw’n awyddus iddyn nhw gael gwybod am drefniadau’r angladd.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un a allai fod â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod: 1600368736

Cafodd Gwilym John Jones ei eni yn Wrecsam ar 16/12/1949, ac roedd yn arfer bod yn llongwr yn y llynges fasnach cyn iddo ymddeol.