Llun: PA
Mae arolwg diweddar wedi dangos cynnydd yn nifer y teuluoedd di-waith sy’n magu plant ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Roedd y dref yn un o lond llaw o lefydd yng ngwledydd Prydain a welodd gynnydd mewn niferoedd, er bod y cyfartaledd ar hyd y gwledydd eraill wedi disgyn.
Mae’r ffigyrau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 9% yn fwy o blant Pen-y-bont ar Ogwr yn byw mewn cartref lle nad oes unrhyw un dros 16 oed yn gweithio.
Yng Ngogledd Ayrshire yn yr Alban y mae’r nifer mwyaf o deuluoedd di-waith yn magu plant, sef 31.1%.
Ar gyfartaledd roedd un o bob wyth o blant, 12%, yn byw mewn cartref gyda rhieni di-waith yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gartref di-waith yw cartref lle nad oes unrhyw un dros 16 oed yn gweithio. Gall hyn fod oherwydd bod rhywun yn ddi-waith, yn methu gweithio, wedi ymddeol neu yn astudio cwrs.
Mae 3.1 miliwn o gartrefi ledled Prydain yn ddi-waith, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.