Llun: PA
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd prisiau tocynnau trên yng Nghymru sy’n cael eu rheoleiddio yn codi yn uwch na’r gyfradd chwyddiant tan o leiaf Hydref 2018.
Mae hynny’n golygu mai’r cynnydd mwyaf all cwmni Trenau Arriva Cymru ei wneud o fis Ionawr 2017 fydd 1.9%.
Mae’r cap yn cael ei gyflwyno am y drydedd flwyddyn yn olynol ac fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, mai’r bwriad yw gwneud teithio ar drenau yn ddewis “deniadol a fforddiadwy”.
“Bydd terfyn ar unrhyw gynnydd ym mhrisiau tocynnau trên o fis Ionawr 2018 yn ogystal hyd ddiwedd cyfnod y fasnachfraint bresennol ym mis Hydref 2018 – sef y gyfradd chwyddiant a dim ceiniog yn fwy,” meddai Ken Skates.