Diane James gydag ACau UKIP yn ystod ymweliad a'r Senedd (Llun: PA)
Mae arweinydd newydd UKIP, Diane James, wedi awgrymu mai Aelod Cynulliad canol a gorllewin Cymru, Neil Hamilton, yw arweinydd y blaid yng Nghymru.
Eisoes, roedd Neil Hamilton yn arweinydd y blaid yn y Cynulliad, ond yn dilyn misoedd o wrthdaro gyda’i gyd-aelod Cynulliad, Nathan Gill, mae’n edrych yn debyg ei fod bellach wedi camu i rôl arweinydd y blaid yng Nghymru hefyd.
Daw hyn wedi i Nathan Gill wrthod rhoi’r gorau i un o’i seddi naill ai fel Aelod Cynulliad neu Aelod Seneddol Ewropeaidd – a bellach mae’n cyfrannu at y Cynulliad fel Aelod annibynnol.
Heddiw oedd ymweliad cyntaf Diane James, fel arweinydd UKIP ac olynydd i Nigel Farage, â’r Senedd ym Mae Caerdydd.
Awgrymodd y byddai’n dymuno gweld Nathan Gill yn ailymuno ag UKIP yng Nghymru, ond nid oedd Nathan Gill yn bresennol i’w chyfarfod heddiw, gan ddweud ei fod wedi’i ddal mewn traffig.