Wrth i dîm pêl-droed Wrecsam baratoi at groesawu Caer i’r Cae Ras yfory ar gyfer gêm ddarbi leol, mae un o gefnogwyr y Dreigiau wedi dweud nad oes angen i’r cefnogwyr ddioddef cyfyngiadau gêm ‘bubble’ rhagor.

Dyma’r pedwerydd tymor yn olynol i’r cyfyngiadau gael eu gosod ac mae’n golygu bod yn rhaid i gefnogwyr Caer gwrdd yn Stadiwm Lookers Vauxhall yn y ddinas cyn teithio i Wrecsam mewn bysiau swyddogol.

Yn ôl un o gefnogwyr Wrecsam, Marc Jones, byddai’r 150 o blismyn yn bresennol yn Wrecsam yfory yn gallu treulio’u hamser yn gwneud pethau amgenach, heb sôn am y gost ychwanegol sydd ynghlwm â cyfyngiadau o’r fath.

Meddai Marc Jones: “Mae’r cyfyngiadau ‘bubble’ yn tynnu’r hwyl allan ohono fo rhywsut a does dim angen o rhagor.

“Mae rhywun dw i’n nabod yn cefnogi Caer ond yn byw yn Wrecsam. Mae’n golygu ei fod o’n gorfod mynd i Gaer yn y bore er mwyn dod nôl i Wrecsam ar gyfer y gêm. Pam bo ni’n gorfod dioddef hyn?”

Ychwanegodd Marc Jones ei fod wedi dilyn Wrecsam i Tranmere y tymor diwethaf – sydd hefyd yn  gystadleuaeth trawsffiniol – a bod “dim ‘bubble’ a dim trafferth” wedi bod.

Arbrawf

Dywedodd bod teimlad ymysg cefnogwyr y ddwy ochr erbyn hyn y dylen nhw drio chwarae un gêm heb y ‘bubble’ fel arbrawf ac mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru Arfon Jones hefyd wedi awgrymu y byddai’n hoffi gweld codi’r cyfyngiadau ar gefnogwyr y tymor nesaf.

Meddai Marc Jones: “Mae pobl yn barod i roi cyfle i’r peth heb ‘bubble’. Lleiafrif bach sy’n camfihafio ac os fyddai camfihafio pellach byddai’r ‘bubble’ yn cael ei ailgyflwyno. Mae pawb dw i wedi siarad gyda nhw’n barod i dderbyn y peth fel arbrawf.”

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gyfarfod ar y Cae Ras, bu Wrecsam yn fuddugol o 3-0. Mae Wrecsam yn yr 14 safle yn y gynghrair ar hyn o bryd – un yn uwch na Chaer – ond a fydda nhw’n fuddugol fory?

“Fyswn i wrth fy modd yn dweud ‘ie’ ond dw i’m yn saff,” meddai Marc Jones. “Does dim byd gwaeth na cholli i Gaer ond de ni heb fod yn chwarae’n dda iawn ac mae pwysau ar y rheolwr a’r chwaraewyr ar hyn o bryd.”

Bydd y gêm yn cychwyn am 12:15 prynhawn fory ac fe fydd hi’n cael ei darlledu’n fyw ar BT Sport.