Mae dyn, 33, yn y ddalfa yng Nghaerdydd, wedi iddo gael ei arestio ar y stryd yn y ddinas wedi’i amau o gomisiynu, paratoi ac annog gweithredoedd terfysgol.

Fe ddaeth cadarnhad fod ymchwiliad wedi bod ar y gweill gan heddlu gwrth-derfysgaeth, a bod uned gwrth-derfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru yn ymwybodol o’r ymgyrch.

Mae dau eiddo yng Nghaerdydd yn cael eu harchwilio.