Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobol i gymryd rhan mewn ymgynghoriad i ddyfodol y gwasanaeth yn y gogledd.

Mae’r awdurdod yn ystyried toriadau posib yn wyneb toriadau i gyllideb y gwasanaethau cyhoeddus.

Un opsiwn sy’n cael ei ystyried yw gwaredu ag un injan dân llawn amser o Wrecsam. Byddai hyn hefyd yn arwain at gwtogi nifer y swyddi, ond byddai modd parhau â’r gwasanaeth yn Wrecsam gyda’r peiriannau eraill.

‘Sefyllfa’n annhebygol o wella’

“Mae pob un ohonom yn ymwybodol bod llai o arian ar gael i wasanaethau cyhoeddus nac yr hoffem, ac rydym yn derbyn bod y sefyllfa’n annhebygol o wella am rai blynyddoedd,” meddai Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

“Mae’r cwestiynau sydd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn gofyn a allwn ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib gyda’r arian sydd ar gael i ni.

“Po fwyaf o sylwadau a derbyniwn, gallwn fod yn hyderus bod y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni’r union beth y mae ei angen ar bobl y Gogledd,” ychwanegodd.

Bydd yr holiadur ar gael yr wythnos nesaf, a rhaid ei chwblhau erbyn 12 Rhagfyr.

Yna, bydd yr argymhellion yn cael eu cyflawni o Ebrill 2017 ymlaen.