Mae’r ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad tractor ar fferm ger Corwen neithiwr wedi’i henwi’n lleol fel y ddynes fusnes adnabyddus, Stephanie Booth.
Roedd yn berchennog ar nifer o westai a busnesau yng ngogledd ddwyrain Cymru, ac yn wyneb cyfarwydd ar BBC Wales am ei rhaglenni Hotel Stephanie a oedd yn canolbwyntio ar sut y mae cynnal a rhedeg gwestai o ddydd i ddydd.
Rhai blynyddoedd yn ôl daeth yn agos iawn at gwblhau cais i brynu clwb pêl-droed Wrecsam.
Roedd wedi cael llawdriniaeth i newid ei rhyw yn yr 80au.
Mae lle i gredu bod gan Stephanie Booth fferm yng nghyffiniau Corwen, ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad neithiwr.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r lleoliad ar dir amaethyddol tua 8yh neithiwr (nos Sul, Medi 18) ond roedd y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r gweithgor iechyd a diogelwch a’r Crwner wedi’u hysbysu.