Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei drywanu yng nghanol tre’ Caerffili neithiwr (nos Iau).

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i safle ar Ffordd Caerdydd, ger Sports Direct, tua 5.45yh ac mae dyn 43 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o gyflawni’r drosedd.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn 61 oed wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol.

Mae’r Arolygydd Jason White yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio’r heddlu ar 101.