Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb i alwad Aelod Cynulliad Plaid Cymru arno i ymddiswyddo, trwy alw’r honiadau gan Neil McEvoy yn “chwerthinllyd”.

Yn gynharach heddiw, fe ddywedodd Aelod Cynulliad Canol De Cymru y dylai Carwyn Jones ymddiswyddo yn dilyn ffrae fawr tros Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd. Roedd yn galw ar i’r pwyllgor craffu sy’n cadw llygad ar waith y Prif Weinidog i’r gynghori i gamu o’r neilltu.

“Mae’r sylwadau hyn yn chwerthinllyd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Fe ddywedodd y Prif Weinidog y dylai Caerdydd gael Gynllun Datblygu Lleol.

“Dylai hynny fod yn bwynt amlwg, gan fod gofyn i bob cyngor yng Nghymru gael Cynllun Datblygu Lleol.

“Wnaeth e ddim sylw am gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol hwnnw, mae hynny’n fater i awdurdodau lleol,” meddai llefarydd Llywodraeth Cymru wedyn. “Waeth faint o weithiau y mae’r gwahaniaeth hynny’n cael ei wneud, mae Mr McEvoy yn ei anwybyddu.”