Y teulu Kutryn ar lan bedd Jan Pojasek
Dros 60 mlynedd ar ôl marwolaeth drychinebus gweithiwr yn ystod gwaith adeiladu Pont Llansawel, mae aelodau o’i deulu o wlad Pwyl bellach wedi ymweld â bedd eu perthynas.

Roedd Jan Pojasek yn ei arddegau pan aeth milwyr yr Almaen i mewn i wlad Pwyl a’i meddiannu, a phan gafodd ef ei gludo yn groes i’w ewyllys i’r Almaen i weithio.

Llwyddodd i ddianc ac, ymhen hir a hwyr, ymunodd â byddin y cynghreiriaid. Wedi’r rhyfel, daeth Cymru yn ail gartref i Jan a bu’n gweithio yn y diwydiant adeiladu nes ei farwolaeth mewn damwain ofnadwy ar Ionawr 8, 1952, pan oedd ond yn 26 oed.

Trefnwyd ei angladd gan ei ffrindiau, ond oherwydd y Llen Haearn, ni allai ei deulu fod yn bresennol.

Ymchwil

Y llynedd, derbyniodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ebost gan Dawid Kutryn a oedd wedi bod yn chwilio am fedd ei hen ewythr am beth amser. Ychydig iawn o fanylion oedd gan y teulu ac, yn y gorffennol, roedd rhwystrau ieithyddol wedi’u hatal rhag dod o hyd i fwy o wybodaeth am eu perthynas.

Yn dilyn tipyn o waith ymchwil gan wasanaeth archifau’r cyngor, canfuwyd union leoliad a pherchnogaeth y bedd a rhoddwyd gwybod i’r teulu. Cynhaliwyd gwasanaeth i ailgysegru a bendithio’r bedd ym mis Mai gan Offeiriad Pwyleg, y Tad Artur Strzepka.

Yna, teithiodd Dawid Kutryn a’i deulu o wlad Pwyl i Lansawel i ymweld â bedd Jan ym Mynwent Llanilltud Fach, yn ogystal â lleoliad y ddamwain.

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at helpu ein teulu,” meddai Dawid Kutryn. “Roedd yn wych bod Duw wedi gadael i ni gwrdd â phobol mor gyfeillgar yng Nghymru.

“Ni fyddwn byth yn anghofio y profiad ingol, a byddwn bob amser yn ddiolchgar am bopeth.”