Nick Bennett
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dweud y byddai triniaeth amserol gan Ysbyty Glan Clwyd wedi arbed bywyd claf a oedd wedi bod yn dioddef o fethiant cronig yr arennau.

Yn yr adroddiad, mae’r Ombwdsmon hefyd yn feirniadol iawn o ymchwiliad a gynhaliodd Ymddiriedolaeth Prifysgol Betsi Cadwladr i farwolaeth y claf, gan gwestiynu “gwrthrychedd” y gwaith.

Cafodd y claf – na fedrir ei enwi – ei daro’n wael pan roedd ar wyliau yn Tenerife, ac fe ddychwelodd i Gymru i gael ei drin yn Ysbyty Glan Clwyd, Llanelwy. Yr oedd wedi derbyn dialysis deirgwaith yr wythnos am oddeutu ddwy flynedd cyn hynny.

Mae’r Ombwdsman yn nodi fod y claf wedi aros dros 12 awr i weld arbenigwr er fod ei gyflwr wedi gwaethygu, ond bu farw ychydig oriau yn ddiweddarach.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon, Nick Bennet  ddarganfod nifer o fethiannau difrifol yn cynnwys diffyg ymgynghorwyr arennol wrth law er mwyn darparu cyngor arbenigol oherwydd eu bod i gyd ar gwrs.

Yr oedd yr Ombwdsmon wedi canfod fod yna arolygaeth annigonol gan arbenigwyr o staff graddau is a arweiniodd at oedi difrifol mewn derbyn y claf i’r Uned. Y mae’n cyfeirio at  gyfres o gyfleoedd a gollwyd i ddarparu triniaeth briodol i’r claf a allai fod wedi arbed ei fywyd.

Gwrthrychedd ymchwiliad

Yn ôl Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Mae’n warth fod Mr X wedi disgwyl am dros 12 awr cyn cael ei weld gan uwch glinigydd a bod absenoldeb ymgynghorwyr arennol arbenigol yn yr ysbyty yn golygu bod triniaeth ddialysis hanfodol yn anffodus wedi dod yn rhy hwyr.

“Bydd teulu’r claf bob amser yn gorfod byw gyda’r ansicrwydd o wybod pe byddai’r cyfleoedd i gael triniaeth wedi cael eu cymryd, gallai’i fywyd fod wedi cael ei arbed o bosibl.  Mae hyn yn anghyfiawnder sylweddol.”

“Rydw i wedi cynnig sawl argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys gwelliannau i lwybr gofal cleifion arennol a thaliad o £20,000 i wraig y claf am y gofid a achoswyd gan y ffordd y bu farw ei gŵr. Rydw i’n falch o gadarnhau bod y Bwrdd Iechyd yn awr wedi cytuno i’r argymhellion hyn.

“Tra’i bod yn rhy hwyr yn anffodus i wraig y claf gael budd o unrhyw welliannau o’r fath, gobeithiaf y bydd gofal arennol yn Betsi Cadwaladr yn gwella i gleifion y dyfodol o ganlyniad i’r achos gofidus hwn.”