Pencadlys Cyngor Gwynedd
Fe fydd aelodau cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cau pedair llyfrgell o fewn y sir mewn cyfarfod prynhawn ma.
Mae’r cynlluniau yn rhan o fwriad i ad-drefnu gwasanaeth llyfrgelloedd Gwynedd, sy’n cynnal 17 adeilad ar hyn o bryd, ac arbed tua £170,000 y flwyddyn.
O dan yr awgrym, byddai llyfrgelloedd Harlech, Penrhyndeudraeth, Llanberis a Deiniolen yn gorfod cau.
Ar un adeg, roedd y cyngor yn ystyried cau hanner llyfrgelloedd y sir er mwyn arbed £50 miliwn dros y blynyddoedd nesa’.
Bydd y cabinet yn trafod yr argymhellion am un o’r gloch prynhawn dydd Mawrth.