Mae tocynnau ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad 2017 wedi mynd ar werth i glybiau rygbi yng Nghymru  brynhawn dydd Llun.

Y clybiau lleol sy’n cael y cynnig cyntaf am docyn i’r stadiwm sy’n dal 74,500 o bobol.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod disgwyl i’r tocynnau ar gyfer y gemau yng Nghaerdydd werthu allan am y trydydd tro eleni a bod hynny yn “hwb enfawr” i’r gamp.

Mae’r prisiau am docyn yn amrywio o £40 i £100 ond mae’r undeb wedi addo na fydd y pris isaf am docyn yn codi’n uwch na £40.

Dywedodd prif weithredwr yr undeb Martyn Phillips: “Mae gennym ni rai o’r cefnogwyr gorau ym myd chwaraeon yng Nghymru ac rydym yn disgwyl i bobol fod yn cysylltu â’r clybiau rygbi yn eu cannoedd dros yr wythnosau nesaf.”