Fe fydd Aled Siôn Davies yn anelu am fedal aur yn y siot F42 yn Rio ddydd Llun.

Fe enillodd e’r fedal efydd yn y siot yn Llundain yn 2012 am dafliad o 13.78 metr. Daeth ei fedal aur bryd hynny yn y ddisgen am dafliad o 46.14 metr, ond dydy’r gystadleuaeth honno ddim ar gael yn nosbarth F42 y tro hwn.

Roedd y Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr yn gapten ar dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, lle enillodd e fedal arian yn y ddisgen yn nosbarth cymysg F42/F44.

Ym Mhencampwriaethau’r Byd yr IPC yn Doha fis Hydref y llynedd, fe enillodd e’r fedal aur yn y siot, a thorri ei record byd ei hun dair gwaith yn y ddisgen wrth sicrhau ail fedal aur.

Ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Grosseto eleni, fe enillodd y fedal aur yn y siot am dafliad o 16.11 metr.

Gwrthwynebwyr

Prif wrthwynebwyr y Cymro yng nghystadleuaeth y siot F42 yn Rio yw Sajad Mohammadian o Iran a Frank Tinnemeier o’r Almaen, ac felly dydy e ddim yn sicr o ennill y fedal aur.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 3 o’r gloch, ac Aled Siôn fydd yr olaf i daflu yn ôl y rhestr swyddogol.

Y Cymry eraill sy’n cystadlu ddydd Llun

Jodie Grinham – Saethyddiaeth – Tîm cymysg cyfansawdd – 1pm

Owen Burke – Saethu – Reiffl 50 metr i ddynion R7 – 1.30pm

Jordan Howe – 200m T35 – Rownd derfynol – 4.05pm

Stephen Thomas – Hwylio – Sonar – 5pm

Phil Pratt – Pêl-fasged mewn cadair olwyn – Prydain v UDA – 7.45pm

Mae modd gweld y cyfan ar Channel 4