Mae rhent misol am dŷ yng Nghymru ar ei uchaf ers 2008 yn ôl arolwg gan gwmni gwerthu tai Your Move.

Ym mis Gorffennaf, roedd tenantiaid yn talu cyfartaledd o £618 y mis a dyma’r ffigwr uchaf ers i Your Move gychwyn ymchwilio i gostau rhent Nghymru a Lloegr.

Roedd rhentu tŷ yn Llundain yn costio tua £1,273 y mis.

Dywedodd Your Move hefyd bod sefyllfa ariannol tenantiaid wedi gwaethygu o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, gyda 9% o bobol wedi methu talu rhent ar amser ym mis Gorffennaf.

Ond mae’r ffigwr yn parhau i fod yn is na’r 14.6% o denantiaid oedd mewn dyled ym mis Chwefror 2010.

Mae’r arolwg wedi’i seilio am wybodaeth gan bobol o tua 20,000 o dai yng Nghymru a Lloegr.