Ysgythriad o'r hen blasdy ar gofeb Penyberth heddiw
Cyn bod ysgol fomio wedi’i chodi ar dir Penyberth yn 1936, roedd yno blasdy lle’r oedd enwau mawr llenyddiaeth Gymraeg wedi bod yn aros ac yn gweithio am ganrifoedd.

Fe gafodd yr hen dŷ fferm ger Eglwys Penrhos – ar y ffordd rhwng Pwllheli a Llanbedrog – ei ddymchwel er mwyn gosod aerodrom ac adeiladau eraill y weinyddiaeth amddiffyn yno.

Am fisoedd cyn i Lewis Valentine, D J Williams a Saunders Lewis danio’r fatsien yn ystod oriau mân Medi 8, 1936, fe fu protestio a llythyru yn y wasg yn erbyn yr hyn oedd yn cael ei alw gan rai yn “fandaliaeth” ddiwylliannol.

Pwy sy’n perthyn?

Yn 1558, fe ddaeth y bardd a’r heliwr achau, Gruffudd Hiraethog, ym Mhenyberth er mwyn llunio coeden deulu ac arfbais y teulu. Mi fu Lewis Dwnn yno hefyd er mwyn gwneud mwy o ymchwil ar y teulu.

Mae’r ddau ohonyn nhw’n gytûn mai cangen o deulu’r Gwynfryn oedd teulu Penyberth ac felly’n ddisgynyddion i Gollwyn ao Tangno, Arglwydd Eifionydd ar ddechrau’r Oesoedd Canol a sylfaenydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd.

Roedd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis, yn ddisgynydd o deulu Penyberth trwy Ann, merch John Wynn o Benyberth… sy’n gwneud y Prif Lenor Robin Llywelyn, ŵyr Clough, yn un o ddisgynyddion teulu Penyberth.

Pwy oedd y beirdd?

Roedd teulu Penyberth yn un o noddwyr ola’ Beirdd yr Uchelwyr yng Nghymru – yr haen o feirdd proffesiynol oedd yn cael eu cyflogi gan deuluoedd cefnog ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Ar ôl hynny, fe fu beirdd fel William Llŷn (1534-80), Wiliam Cynwal (a fu farw yn 1587), Sion Phylip a’i frawd Rhisiart Phylip o Ardudwy, a Watcyn Clywedog yno ar eu teithiau.