Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i honiadau am gyfres o droseddau, gan gynnwys trosedd ar sail hil, mewn bwyty yn y Gelli Gandryll yr wythnos diwethaf.
Yn ôl yr heddlu, mae dyn 31 oed o’r ardal wedi’i gyhuddo o ymosod, troseddu ar sail hil, ymosod ar swyddog yr heddlu a gwrthsefyll ei arestio yn dilyn digwyddiad ym mwyty Red Indigo yn y Gelli Gandryll.
Digwyddodd hyn tua 11 yr hwyr nos Iau, Medi 1, ac mae’r dyn eisoes wedi ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Aberhonddu ac mae’n parhau yn y ddalfa tan y bydd yn ymddangos eto yn y Llys dydd Iau, Medi 8.
‘O flaen ei well’
Mae dyn arall 39 oed o ardal Talgarth wedi’i arestio am achosi difrod troseddol ac wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd Prif Arolygydd dros dro Powys, Matt Scrase: “Mae’r holl droseddau sydd wedi’u cymell ar sail hil yn Dyfed Powys yn cael y flaenoriaeth uchaf.”
“Bydd yr holl adrannau arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau fod unrhyw dramgwyddwr yn mynd o flaen ei well yn unol â’r gyfraith,” meddai wedyn.
Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.