Christine James Llun: Heddlu De Cymru
Mae dyn wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio ei gymydog yn ei fflat ym Mae Caerdydd.
Roedd Kris Wade, 36, o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Christine James, 65, yn ei fflat yn Century Wharf rywbryd rhwng 25 Chwefror a 3 Mawrth.
Fe ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo o garchar Long Lartin yn Swydd Gaerwrangon.
Dywedodd John Charles Rees QC ar ran y diffynnydd, bod Kris Wade yn cyfaddef llofruddio Christine James ond y byddai’n gwrthwynebu honiadau’r erlyniad bod cymhelliad rhywiol y tu ôl i’r llofruddiaeth.
Ychwanegodd nad oedd Kris Wade “yn cofio unrhyw beth ynglŷn â’r digwyddiad.”
Roedd teulu Christine James wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl iddi fethu a chyrraedd maes awyr Gatwick yn Llundain ar gyfer taith i Florida.
Cafwyd hyd i’w chorff yn ei fflat ar 2 Mawrth. Cafodd ei gweld y tro diwethaf yn gyrru ei char BMW ar 26 Chwefror.
Cafodd Wade ei arestio ddyddiau’n ddiweddarach cyn cael ei gyhuddo.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i’r cysylltiad rhwng Christine James a Heddlu De Cymru cyn ei marwolaeth.
Fe fydd Wade yn cael ei ddedfrydu ar 22 Medi.