Mae gyrrwr 20 oed wedi cael ei garcharu am bum mlynedd ar ôl achosi marwolaeth trwy yrru’n wyllt ddiwrnod ar ôl pasio ei brawf gyrru.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Sean Michael Sullivan yn gyrru bron i 100 milltir yr awr ar ffordd wledig ym Mhenrhyn Gŵyr cyn taro car Timothy Malone a’i wraig Yvonne Howard, a oedd ar wyliau yno o Hampshire.

Fe fu farw Timothy Malone wrth gael ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty Treforys, a chafodd ei wraig ei hanafu’n ddifrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol ar gomin Cefn Bryn ar 31 Gorffennaf y llynedd, ddiwrnod ar ôl i Sullivan, a oedd yn 19 oed ar y pryd, basio ei brawf.

Plediodd Sullivan yn euog i un cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, un cyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus a dau gyhuddiad o yrru’n beryglus.

Ar ddiwedd yr achos, dywedodd yr Arolygydd Steve Davis o Heddlu De Cymru:

“Mae’r farwolaeth drychinebus hon wedi dangos yn glir unwaith eto beth yw canlyniadau gyrrwr ifanc a dibrofiad, yn gyrru’n rhy gyflym, sy’n rhoi gyrwyr a theithwyr mewn perygl o anaf difrifol neu farwolaeth.”