“Mae’n amser grêt i fod yn Gymro neu’n Gymraes,” yn ôl golwr Cymru, Owain Fôn Williams ar drothwy ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018.

Bydd Cymru’n herio Moldofa yn eu gêm gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun, gan wybod y bydd gan y genedl ddisgwyliadau mawr yn dilyn eu llwyddiant yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Yn ôl Fôn Williams, mae’r garfan yn dal i deimlo’r bwrlwm ar drothwy ymgyrch newydd.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae Cymru i gyd y tu ôl i’r tîm yma, yn enwedig ar ôl be ddigwyddodd yn Ffrainc wrth gyrraedd y semi-final. Roedd o’n sbesial iawn, yn freuddwyd i fod yn onest.

“Dw i’n sicr ’mod i’n siarad dros yr holl hogia yn y garfan. Roedd o’n un o amserau gorau eu bywydau nhw, ac yn sicr i fi’n bersonol.”

Mae’r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi tanlinellu pwysigrwydd edrych ymlaen a datblygu ar y seiliau a gafodd eu gosod yn Ffrainc dros yr haf, ac fe gafodd hynny ei danlinellu gan Owain Fôn Williams wrth i’r wasg ymgasglu yng ngwesty’r Vale ddydd Iau.

“Dan ni gyd yn gwybod pa mor agos ydan ni fel carfan, fod bond yma rhyngddan ni gyd a’r agosatrwydd. Mae be sy wedi cael ei gyflawni allan yn Ffrainc yn mynd i gael ei gario ’mlaen rwan, gobeithio, i’r ymgyrch yma.

“Mae gynnon ni gêm anodd iawn yn erbyn Moldofa ddydd Llun, ond gobeithio’n arw y byddan ni’n curo honno.”

Fe fydd y cefnogwyr – a’r chwaraewyr o ran hynny – yn awyddus i’r bwrlwm a’r parti barhau ar ddechrau ymgyrch newydd, ond fydd Moldofa ddim yn gêm hawdd, yn ôl y golwr o Ddyffryn Nantlle.

“Mi fydd hi’n anodd iawn, sdim dwywaith am hynny. Does na’m gêm hawdd yn yr ymgyrch yma. Mae ’na ddeg gêm ac mi fydd hi’n ddeg gêm anodd iawn. Ond gobeithio’n arw y byddan ni’n dechrau’n dda.

“Dan ni gyd yn gallu teimlo’r gefnogaeth y tu ôl i ni. Mae o’n grêt, yn anhygoel. Dan ni’n teimlo bod pawb o bob cornel o Gymru’n barod i heidio nôl i Gaerdydd.”

Stori: Alun Rhys Chivers