Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod corff dyn wedi cael ei dynnu o’r dŵr rhwng Aberystwyth a Borth bore ‘ma.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau gwneud ymholiadau i adnabod y dyn.

Yn ôl yr heddlu, dydy’r darganfyddiad ddim yn gysylltiedig “o gwbl” â’r digwyddiad yn harbwr Aberystwyth dydd Mercher, pan gafodd ddau ddyn eu tynnu o’r dŵr ar ôl mynd i drafferthion.

Er i’r ddau gael eu hachub gan y bad achub lleol, bu farw un o’r dynion yn Ysbyty Bronglais yn y dref yn ddiweddarach ac mae’r llall mewn cyflwr sefydlog yn yr un ysbyty.