Mae mwy o bobol yn edrych ar ddeunydd o gam-drin plant Llun: Heddlu Gwent
Mae nifer y troseddau’n ymwneud â delweddau anweddus wedi mwy na threblu yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ôl elusen yr NSPCC.

Cafodd y ffeithiau eu datgelu wrth yr elusen blant yn dilyn cais drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd 1,321 o droseddau’n ymwneud â delweddau anweddus yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Cafodd 201 ohonyn nhw eu cyflawni yn 2013, tra bod 738 o’r troseddau wedi’u cyflawni yn 2015.

Yn ardal Heddlu’r De yr oedd y nifer fwyaf o droseddau (480).

Roedd 412 o droseddau yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, 320 yn ardal Heddlu’r Gogledd a 109 yn ardal Heddlu Gwent (ar gyfer 2015 yn unig).
Drwy holl wledydd Prydain, gwnaeth y nifer o droseddau gynyddu o 4,530 yn 2013 i 10,818 yn 2015.

‘Mwy o adnoddau’

Yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau, mae’r NSPCC yn galw ar i’r heddlu gael mwy o adnoddau fel bod modd mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan ddweud bod angen i’r byd technolegol hefyd chwarae rhan yn y broses.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau’r NSPCC yng Nghymru, Des Mannion fod “problem gynyddol” yng Nghymru gyda mwy o bobol yn edrych ar ddeunydd o gam-drin plant.
“Rydyn ni am weld cwmnïau sy’n gweithredu ar-lein yn blaenoriaethu’r mater hwn drwy neilltuo arbenigedd ac adnoddau sylweddol i atal cyhoeddi a dosbarthu’r delweddau hyn.

“Rhaid i ddarparwyr rhwydweithiau cymdeithasol a phlatfformau technolegol eraill sylweddoli mai nhw yw prif alluogwyr cam-drin plant yn rhywiol, ac ymrwymo o ddifri i’w herio.”

Hunluniau

Ymhlith y ffigurau, roedd 2,000 o blant yn droseddwyr rhwng 2013 a 2015, gyda’r rhan fwyaf yng Nghymru yn ardal Heddlu’r Gogledd.

Mae’r elusen wedi mynegi pryder, gan annog rhieni i drafod pwysigrwydd peidio â thynnu hunluniau rhywiol ohonyn nhw eu hunain.

Mae’r elusen yn galw am wersi i blant a phobol ifanc fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol.