Lee Waters AC
Mae Aelod Cynulliad Llafur Llanelli wedi galw ar y pleidiau i ddod ynghyd i greu cynllun a fydd yn gwella economi Cymru.

Daw sylwadau Lee Waters yn ei flog diweddaraf sy’n ymateb i’r amheuon a godwyd yn ddiweddar am werth y Cynulliad Cenedlaethol a dyfodol datganoli ar ôl Brexit.

Yn ôl Lee Waters, mae’n “beryglus” anwybyddu sylwadau o’r fath, ac mae’n awgrymu ei hun bod y Cynulliad wedi methu â chyrraedd ei botensial o ran trawsnewid economi Cymru.

Cynllun economaidd

Dywed Lee Waters: “Cafodd yr achos dros y Cynulliad ei wneud yn wreiddiol ar sail gallu datganoli i drawsnewid yr economi Gymreig. Ar sail hynny, mae wedi methu hyd yn hyn i gyrraedd ei botensial.”

Cyfeiriodd at erthygl gan Paul Johnson, pennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) sy’n rhybuddio y gallai economi Prydain “grebachu’n sylweddol” ymhen 15 mlynedd o ganlyniad i Brexit.

Roedd yr AC yn cydnabod y gallai’r gefnogaeth i’r Cynulliad dyfu yn ystod y cyfnod “economaidd anodd hwn” ond ychwanegodd; “mae’r gwrthwyneb yr un mor debygol, a fyddwn i ddim yn cymryd unrhyw risg.”

“Mae angen inni frwydro fel pe bai dyfodol datganoli yn dibynnu arno a dod ynghyd – ar draws y pleidiau – i gytuno ar gynllun economaidd all roi taw ar amheuwyr a chyflawni addewid datganoli,” meddai wedyn.

Beirniadu

Daw sylwadau Lee Waters wedi i rai gwleidyddion amau dyfodol datganoli’r wythnos diwethaf yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn eu plith, Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Er hyn, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gyhudduo’r amheuwyr o ddangos diffyg ffydd yng Nghymru gan ddadlau fod Brexit yn cryfhau’r achos o blaid grymuso’r Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach na chyfiawnhau canoli grym yn Llundain.