Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 63 oed o lofruddio dynes 54 oed o’r Barri.

Cafodd Raymond O’Connell o Benarth, ger Caerdydd ei gyhuddo’n wreiddiol ar 5 Awst o geisio llofruddio Lynne Braund. Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 6 Awst a’i gadw yn y ddalfa.

Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth, dywed yr heddlu eu bod nhw bellach wedi cyhuddo Raymond O’Connell o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd drwy gyswllt fideo ar ddydd Gwener, 2 Medi.

Cafodd yr heddlu eu galw i Glanmor Crescent, Y Barri ar ddydd Iau, 4 Awst. Cafodd Lynne Braund ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei theulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.