Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd eu cwrs cyfieithu i fyfyrwyr uwchraddedig yn dechrau’r hydref hwn.

 

Dyma’r cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn cael ei gydlynu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant a phartneriaid yn y diwydiant.

Eisoes mae un cwmni cyfieithu o Gaernarfon, Cymen, wedi cyhoeddi eu bod yn cynnig ysgoloriaeth a gwarant o swydd am ddwy flynedd i ymgeisydd rhagorol, ac mae dyddiad cau’r ysgoloriaeth honno heddiw.

‘Cymdeithas gynyddol ddwyieithog’

“Dyma’r cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru ac rydym ni’n falch iawn i fod yn cyflwyno rhaglen sy’n diwallu gofynion cymdeithas gynyddol ddwyieithog,” meddai Mandi Morse, Darlithydd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Yn ogystal â dysgu am bob agwedd o gyfieithu, mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr yn y gweithle,” ychwanegodd.

Ysgoloriaeth a gwarant o swydd

Ychwanegodd Cyfarwyddwr cwmni cyfieithu Cymen, Aled Jones: “Rydym ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y cwrs newydd hwn gan ei bod yn hanfodol i’r diwydiant ddatblygu cyfieithwyr newydd sydd wedi derbyn hyfforddiant o safon uchel.”

“Bydd ein hysgoloriaeth ni hefyd yn gymhelliant ychwanegol gobeithio – mae ar agor i unrhyw un sy’n ymgeisio a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn gwarant o swydd ar ddiwedd y cwrs.”