Y Cynghorydd Mike Priestley ar y traeth ym Mae Colwyn Llun: Cyngor Conwy
Mae cynllun newydd wedi’i lansio heddiw gan Gyngor Sir Conwy i gynnig Wi-Fi am ddim i’r cyhoedd ar hyd traeth Bae Colwyn.
Cynllun peilot tair blynedd fydd hwn, a dyma’r Cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno cynllun sy’n darparu mynediad am ddim i’r we mewn lleoliad awyr agored.
Bydd modd pori’r we drwy gysylltu â’r Wi-Fi fydd ar gael am ddim ar y promenâd rhwng Porth Eirias a’r Pier ym Mae Colwyn.
‘Gwasanaeth gwych’
“Conwy yw’r Cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i ddarparu Wi-Fi rhad ac am ddim mewn lleoliad awyr agored fel hyn,” meddai’r Cynghorydd Mike Priestley.
“Bydd modd i drigolion ac ymwelwyr sy’n ymuno â’r Wi-Fi ddarganfod beth sy’n digwydd ym Mae Colwyn, gallu edrych ar fusnesau a gwasanaethau lleol a darllen gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y Sir,” meddai.
“Rydym yn cydnabod bod cael mynediad at wybodaeth yn gyflym yn dod yn fwyfwy pwysig a gall fod o fudd i ddefnyddwyr a busnesau… ac mae Wi-Fi ar y traeth ym Mae Colwyn yn wasanaeth gwych i unrhyw un yn y dref.”