Fe fydd gorsaf newydd Radio Beca yn dechrau darlledu’nn rheolaidd ar y We am y tro cynta’ ymhen ychydig tros wythnos.

Mae’r rhaglen ddwyawr ar foreau Sadwrn yn cael ei hystyried yn arbrawf ar gyfer datblygiadau pellach i orsaf gymunedol hen siroedd Dyfed.

“Mae’n bryd dechrau darlledu am gyfnod prawf o 6 wythnos bob bore dydd Sadwrn rhwng 10-12,” meddai swyddog datblygu’r orsaf, Lowri Jones.

Y cefndir

Cafodd Radio Beca drwydded gymunedol i ddarlledu ar donfeddi radio yn 2012 gan y rheoleiddwyr Ofcom ond fe gafodd y drwydded ei dileu yn 2015 ohewrydd oedi yn lansiad yr orsaf.

Ers hynny, mae’r cwmni y tu cefn i ddi wedi bod yn darlledu bob hyn a hyn o ddigwyddiadau yn yr ardal – Ceredigion, Sir Gâr a gogledd Sir Benfro.

“Fe fydd y cynnwys yn eithaf amrywiol gyda chyflwynwyr gwahanol bob wythnos fel y gyflwynwraig adnabyddus Elen Pencwm a fe fydd cyflwynwyr newydd yn bwrw eu prentisiaeth hefyd,” meddai Lowri Jones.