Luke Morton Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei sgubo i’r môr ger traeth Mwnt yng Ngheredigion bythefnos yn ôl.
Mae Luke Morton, 23, o ganolbarth Lloegr yn dal i fod ar goll ar ôl cael ei sgubo i’r môr ar ddydd Sul, 7 Awst.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n parhau i chwilio amdano yn yr ardal o gwmpas Mwnt.