Mae trigolion mewn bloc o fflatiau yn Abertawe wedi cael eu symud o’u cartrefi ar ôl i gar daro yn erbyn yr adeilad heddiw.
Roedd y car Skoda Yeti wedi taro yn erbyn y fflatiau yn Heol Gwyr, Sgeti gan adael twll mawr yn y wal.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 1.05yp prynhawn dydd Mercher.
Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Treforys ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai difrifol.
Mae un o drigolion y fflatiau wedi cael triniaeth am sioc ond dywed y Gwasanaeth Ambiwlans nad oes unrhyw un wedi’u hanafu’n ddifrifol.
Mae’r fflatiau yn Stewart Hall ar gyfer pobl dros 55 oed. Mae’n bosib na fydd rhai o’r trigolion yn cael dychwelyd heno wrth i beirianwyr asesu’r difrod i strwythur yr adeilad.
Mae’r ddamwain wedi achosi problemau traffig yn yr ardal.