Plant yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia Llun: British Council Cymru
Mae nifer y dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia yn parhau i gynyddu, yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar Brosiect yr Iaith Gymraeg yno.
Yn 2015, roedd cyfanswm o 1,220 o drigolion Patagonia yn dysgu Cymraeg o’i gymharu â 1,174 yn 2014 – y nifer uchaf o ddysgwyr ers dechrau’r prosiect yn 1997 gyda 537 o ddysgwyr.
Mae Adroddiad Monitro Blynyddol Prosiect yr Iaith Gymraeg 2015, sy’n cael ei redeg gan British Council Cymru, hefyd yn nodi bod y nifer y gwersi Cymraeg yn y rhanbarth wedi cynyddu i 104; o’i gymharu â 90 yn 2014, 83 yn 2013 a 79 yn 2012.
Dathlu 150
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Yn ogystal â pharhau i reoli’r Prosiect ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015, fe wnaethom hefyd gydlynu Patagonia 150, sef y dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i’r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru gyrraedd Patagonia.
“Ar ôl blwyddyn lwyddiannus o ddigwyddiadau rydym yn falch fod yr adroddiad yn dangos bod y gwaith o ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn y Wladfa yn gryfach nag erioed.”
Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cymru-Ariannin a British Council Cymru yn ariannu Prosiect yr Iaith Gymraeg sy’n rhan o’r Rhaglen Addysg Ryngwladol.
Agor dwy ysgol newydd
Dywedodd Clare Vaughan, cydlynydd dysgu sydd wedi’i lleoli ym Mhatagonia: “Cyn i’r flwyddyn ddechrau fe wnaethom drafod y dathliadau i nodi’r ymsefydlwyr cyntaf gyrraedd Patagonia, ond nid oeddem yn disgwyl blwyddyn mor brysur o waith a gweithgareddau.
“Mae wedi bod yn wych cael croesawu gymaint o bobl i’r cymunedau yma ac rwy’n gobeithio y cafodd pawb a fu’n ymweld â ni deimlo’r wefr o gael siarad iaith eu hunain a hynny mor bell o adref.”
Yn y flwyddyn ddiwethaf hefyd, mae dwy ysgol newydd wedi agor – Ysgol Gymraeg y Gaiman ac agoriad ysgol newydd yn Nhrevelin, Ysgol y Cwm.”
Bydd blwyddyn nesaf yn nodi 20 mlynedd ers dechrau Prosiect yr Iaith Gymraeg.