Mae’r chwilio am ddynes sydd wedi bod ar goll am bron i bum mis o ardal Caernarfon yn parhau.

Ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau heddiw bod tîm Cŵn Achub a Chwilio Prydeinig Rhyngwladol (BIRD) yn ymuno â nhw’r wythnos hon.

Y gobaith ydy defnyddio’r cŵn achub i gwblhau chwiliad manwl mewn dŵr dwfn yn ardal Caernarfon.

Mae Avril Whitfield, 57 oed, wedi bod ar goll ers Ebrill 1, a does dim cynnydd wedi bod yn y chwilio amdani hyd yn hyn.

“Er ei bod bron yn bum mis ers i Avril fynd ar goll rydym yn parhau’n benderfynol iawn i ddod o hyd iddi,” meddai’r Prif Arolygydd Richie Green o Swyddfa Heddlu Caernarfon.

“Ynghyd â’r timau achub eraill rydym am ddod â rhywfaint o dawelwch meddwl i’w theulu,” ychwanegodd.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 15235.