Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i chwarae eu rhan yn y gwaith o fynd i’r afael a dail a choed sy’n gordyfu i’r ffordd fawr.
Mae cwynion dros yr haf am lystyfiant sy’n tyfu allan o erddi a chaeau wedi arwain at bryderon am ddiogelwch y ffyrdd.
‘Gall effeithio ar ddiogelwch modurwyr’
Fe eglurodd Pennaeth Priffyrdd, Rheoli Gwastraff ac Eiddo Cyngor Ynys Môn, Dewi Williams, “Gall llystyfiant sydd wedi gordyfu effeithio ar ddiogelwch modurwyr a cherddwyr. Gall amharu ar allu pobl i weld, cuddio arwyddion ffordd ac ar adegau, gall orfodi pobl i orfod gadael y pafin a cherdded yn y ffordd.”
Yn ôl Dewi Williams, “Mae’n broblem, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ac rydym yn annog trigolion i sicrhau bod unrhyw goed neu lwyni yn eu gerddi yn cael eu torri ac nad ydynt yn cael eu gadael i dyfu allan i’r ffordd fawr.”
Ychwanegodd: “Nid ydym eisiau gweld unrhyw ddamweiniau, felly rydym yn gofyn i bobl am eu cydweithrediad ac iddynt reoli eu gerddi er mwyn gwarchod modurwyr a cherddwyr fel ei gilydd.”
Annog y cyhoedd
Dywedodd Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae gennym y pwerau i allu cyflawni gwaith brys ein hunain ac yna hawlio ad-daliad yn ôl gan berchennog yr eiddo neu’r tir lle mae’r broblem wedi codi. Wrth gwrs, byddai’n well ceisio osgoi problem o’r fath rhag codi yn y lle cyntaf felly rwy’n annog y cyhoedd i gefnogi ymdrechion y Cyngor Sir.”