Ynys Llanddwyn, Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae tagfeydd traffig difrifol yn ystod cyfnodau prysur yr haf ym mhentref Niwbwrch ar Ynys Môn wedi arwain at bryderon am ddiogelwch.

Mae’r Cynghorydd lleol, Ann Griffith wedi cysylltu â Chyngor Ynys Môn i leisio pryderon ei chymuned ynglŷn â’r problemau wrth i ymwelwyr deithio  i draeth Llanddwyn gerllaw.

Mae Tywyn Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Y corff  sydd hefyd yn gyfrifol am y maes parcio yng Nghoedwig Niwbwrch.

“Mae problemau yn digwydd tua chwech i wyth  gwaith y flwyddyn pan fydd tywydd braf ar benwythnosau a phan mae’r maes parcio’n llawn, mae’n rhaid ei gau,” meddai Ann Griffith.

“Ond mae pobl yn dal i deithio lawr  i’r maes parcio, ac os ydi o’n llawn, mae’n hafoc wedyn, gyda’r ffordd yn dagfa.”

Ychwanegodd: “Y broblem ydi, mae yna dagfeydd traffig difrifol yn digwydd, a dim ond un lôn a lle i un car sydd i lawr i’r goedwig. Beth petai yna dân yn y goedwig? Fe fyddai hynny’n beryg.”

‘Trafodaethau’

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod wedi cysylltu gydag Adran Priffyrdd Cyngor Ynys Môn ar ran aelodau o’r cyhoedd yn mynegi pryder am y tagfeydd.

“Mi wnes i gysylltu dros ddeg diwrnod yn ôl yn lleisio pryder am y tagfeydd sy’n digwydd.  A dwi’n ymwybodol fod trafodaethau wedi dechrau’n barod rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Adran Briffyrdd i geisio datrys y broblem.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn: “Gallwn gadarnhau ein bod wedi cyfarfod â staff o Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wedi gofyn iddynt gyflwyno mesurau addas er mwyn helpu rheoli’r broblem tagfeydd yn Niwbwrch ar gyfnodau prysur.

“Unwaith byddwn wedi cwblhau asesiadau, fe wnawn barhau i gyd-weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, trigolion a busnesau lleol er mwyn ceisio datrys y broblem yn yr hirdymor.”

‘Angen rhybuddio modurwyr’

Croesawodd Ann Griffith fod yr awdurdodau perthnasol wedi ymateb yn brydlon i’w chais ond dywedodd “y bydd hi’n rhy hwyr i wneud dim cyn Gŵyl y Banc y penwythnos nesaf.”

Ond mae Ann Griffith yn  teimlo fod angen iddyn nhw  wneud yn fawr o gyfryngau cymdeithasol a gosod arwyddion i  hysbysu fod y maes parcio yn llawn: “Fe all Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Môn ar y cyd fynd ati i wneud gwell defnydd o Facebook a Twitter i rybuddio modurwyr ac ymwelwyr fod y maes parcio yma wedi cau, neu rybuddio fod traethau eraill yn yr ardal yn orlawn hefyd.”

Mae golwg360 ar ddeall fod yr Adran Briffyrdd yn barod i adolygu’r math o arwyddion sy’n arwain at y goedwig.

Mae golwg360 hefyd wedi gofyn am ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru.