Mae disgwyl i brotest gael ei chynnal yng Nglyn Ebwy heddiw, yn erbyn cynlluniau cyngor Blaenau Gwent i roi lloches i deuluoedd o ffoaduriaid o Syria yn y dre’.

Mae grwp sy’n ei alw ei hun, ‘Welsh Resistance’ wedi cyhoeddi ar wefan Facebook y byddan nhw’n cynnal protest heddiw. Maen nhw hefyd yn honni eu bod yn protestio yn erbyn cynlluniau i godi mosg yng Nglyn Ebwy.

Er nad yw’r manylion eto wedi’u cyhoeddi, mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol y bydd protest yn digwydd.

Meddai Welsh Resistance ar Facebook: “Rydyn ni’n cynnal protest yng nghanol tre’ Glyn Ebwy ddydd Sadwrn, Awst 20, yn erbyn cynlluniau i godi mosg yn y dre’ a hefyd oherwydd fod y cyngor yn paratoi tai ar gyfer 20 o deuluoedd o Syria.

“Dydyn ni ddim eisie ffoaduriaiad ffor’ hyn…”