Hillary Clinton
Mae barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi gorchymyn Hillary Clinton i ateb cwestiynau ysgrifenedig am ei defnydd o gyfri’ ebost personol yn ystod ei chyfnod yn Ysgrifennydd Gwladol America.
Fe gyhoeddodd y barnwr, Emmet G Sullivan, y gorchymyn fel rhan o achos llys hirfaith ynglyn â chofnodion cyhoeddus sydd wedi’i ddwyn gan y grwp, Judicial Watch.
Mae Judicial Watch yn un grwp ymhlith nifer sydd wedi erlyn y llywodraeth tros fynediad i gofnodion ynglyn â gwaith Hillary Clinton pan oedd hi yn yr uchel swydd rhwng 2009 a 2013.
Mae’r barnwr wedi dweud fod yn rhaid i Judicial Watch anfon eu cwestiynau at Hillary Clinton erbyn Hydref 14, a bod yn rhaid iddi hithau eu hateb o fewn 30 niwrnod.
Mae’r amserlen hon yn golygu y bydd y mater heb ei ddatrys cyn y bydd pobol America yn pleidleisio tros eu Harlywydd nesa’ – mae Hillary Clinton yn herio Donald Trump am y swydd honno ddechrau Tachwedd.