Gwesty Ynyshir (llun cyhoeddusrwydd)
Fe gyhoeddwyd fod chwech gwesty o Gymru wedi dod i’r brig ymhlith 100 o westai gorau Prydain.
Yr ucha’ o Gymru oedd Gwesty Ynyshir rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
Mae gwesty sy’n enwog am ei bolisi a’i awyrgylch dwyieithog – Gwesty’r Harbwr yn Aberaeron – hefyd ar y rhestr.
Ar y blaen
Mae’r cyfanswm yn gosod Cymru ar y blaen i’r Alban a rhanbarthau gwyliau amlwg fel Dyfnaint a Chernyw.
Roedd y rhestr yng nghylchgrawn y Caterer yn cael ei ddewis gan berchnogion gwestai ac wedyn gan newyddiadurwyr.
Fe gafodd y newyddion ei groesawu gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, a Justin Baird Murray, cadeirydd Cymreig Cymdeithas Lletygarwch Prydain.
“Mae’n dangos cryfderau mawr y diwydiant gwestai a chroeso yng Nghymru a gwerth fuddsoddiad preifat cryf ar y cyd â chefnogaeth effeithiol gan Lywodraeth Cymru.”
Y chwech
Y chwech gwesty yw:
- Ynys Hir, Machynlleth
- Bodysgallen, Llandudno
- Y Celtic Manor, Casnewydd
- Gwesty’r Harbwr, Aberaeron
- Llangoed Hall ger Llanfair ym Muallt
- The Grove, Arberth.