Nathan Gill (o'i wefan)
Mae’r Aelod Senedd Ewrop ac AC, Nathan Gill, wedi wfftio honiadau o dwyll ar ôl i’r heddlu ymchwilio i’w achos a throsglwyddo’r gwaith i gorff ymchwil Senedd Ewrop.

Mae Nathan Gill wedi addo clirio’i enw, gan ddweud bod yr honiadau o gam-ddefnyddio arian Ewrop yn “gwbl ffug”.

Mae’n cyhuddo’i elynion gwleidyddol o geisio’i danseilio – ynghynt yr wythnos hon fe gyhoeddodd y byddai’n gadael grwp UKIP yn y Cynulliad ar ôl gwrthdaro yno, yn arbennig gydag arweinydd y grŵp, Neil Hamilton.

Yn ôl rhai adroddiadau mae’r ymchwiliad yn ymwneud â honiadau bod Nathan Gill wedi camddefnyddio lwfansau personol at bwrpasau gwleidyddol.

‘Strategaeth’ yn ei erbyn

“Mae’r cyhuddiadau hyn, heb amheuaeth, yn gwbl ffug ac mae’n rhan o strategaeth barhaus i ddifrodi fy enw da,” meddai Nathan Gil.

“Dw i’n hyderus y bydd y rhai sy’n ceisio fy mrifo yn wynebu cyhuddiadau priodol. Dw i’n gweld fod yr ymgyrch filain, ddiwyneb a di-sail yn fy erbyn yn flaenoriaeth gan rai.”

Mae’r Blogiwr gwleidyddol Guido Fawkes wedi awgrymu bod Neil Hamilton wedi ‘rhagweld’ yr ymchwiliad i faterion ariannol Nathan Gill yn dilyn ebost i Bwyllgor Cenedlaethol UKIP ddydd Sul diwetha’.

Cefndir Nathan Gill

Mae Nathan Gill sy’n byw yn Ynys Môn, yn arweinydd Plaid UKIP yng Nghymru ac mae’n aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru,ac hefyd yn aelod o Senedd Ewrop. Daeth dan bwysau i ymddiswyddo fel arweinydd UKIP yng Nghymru yn dilyn ei benderfyniad i droi cefn ar UKIP yn y Cynulliad, gan gyhoeddi ddoe ei fod yn sefyll fel aelod annibynnol.