Luke Thomas (Llun: HCC)
Mae Hybu Cig Cymru wedi sicrhau cytundeb gyda Chymro a chogydd enwog i roi blas o Gymru i rai o artistiaid pop enwoca’r byd.
Daw hyn wedi i’r cogydd ifanc o sir y Fflint, Luke Thomas, sicrhau cytundeb am yr eildro yn flynyddol i weini pryd o fwyd i brif artistiaid gŵyl V Festival sydd i’w chynnal yn Chelmsford y penwythnos hwn.
Ac mae’r cogydd ifanc wedi cadarnhau y bydd yn paratoi pryd yn cynnwys ysgwydd o gig oen Cymru wedi’i goginio mewn menyn sbeislyd oren a harissa, pomgranad, caws ffeta, a salad winwns coch a mintys.
Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl, ac yn blasu’r wledd, y mae Rihanna, Justin Bieber, y Kaiser Chiefs, Rick Astley, Bill Bailey, Katherine Ryan a Josh Widdicombe.
‘Pryd stryd’
“Mae’n gyffrous i gael coginio yn y V festival unwaith eto i’r artistiaid fydd yn perfformio ar y llwyfan,” meddai Luke Thomas a fu’n brif gogydd ieuengaf Prydain yn 2012.
“Roedd llynedd yn llwyddiant mawr ac mae cael arddangos un o fy hoff fwydydd ac un sy’n agos at fy nghalon, Cig Oen Cymru, yn arbennig iawn,” meddai wedyn.
“Gellir disgrifio’r bwyd fel ‘pryd stryd’, yn sawrus iawn a ffres, gyda blasau trawiadol gwych yn cyd-fynd â’r cig oen.”