Russell George
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru ac i ystyried cael diddymu asiantaeth Croeso Cymru.

Yn ôl llefarydd y blaid dros dwristiaeth, Russell George AC, nid yw cyrchfannau gwyliau yn y gogledd yn cyrraedd eu llawn botensial, ac mae angen ystyried cael gwared Croeso Cymru a sicrhau rheolwyr sydd ag arbenigedd yn y diwydiant wrth hyrwyddo “twristiaeth unigryw Cymru”.

Roedd Russell George yn ymateb i adroddiadau yn y BBC y bore yma bod ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant twristiaeth wedi dweud bod angen gwella’r gwasanaethau sylfaenol sydd ar gael ar gyfer pobol sy’n ymweld â gogledd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys toiledau cyhoeddus, gwell arwyddion ffordd, a sicrhau bod y strydoedd yn lân.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud ei bod yn bosib y bydd yn rhaid cau canolfannau gwybodaeth i dwristiaid a thoiledau cyhoeddus oherwydd toriadau a dywedodd Toby Tunstall, Cadeirydd Siambr Fasnach Conwy, bod y dref yn diodde’ oherwydd toriadau i’r Cyngor lleol.

‘Tlysau coron twristiaeth Cymru’

Meddai Russell George AC: “Trefi glan môr yw tlysau coron twristiaeth Cymru ac eto nid yw llawer ohonynt, gan gynnwys y rheini yn y Gogledd, yn cyflawni eu potensial llawn ac mae nifer yr ymwelwyr yn gostwng.

“Mae’r diffyg glendid a chynnal a chadw priodol mewn drefi glan môr yn arwydd nad yw’r awdurdodau lleol yn derbyn y cymorth sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru.

“I wneud y sefyllfa’n waeth, mae sector twristiaeth Cymru yn cael ei siomi gan farchnata gwael. Mae angen i Weinidogion Llafur atgyfnerthu’r diwydiant drwy hyrwyddo Cymru yn well ar y llwyfan rhyngwladol, yn ogystal ag i weddill y DU.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cael gwared ar Croeso Cymru o reolaeth y Llywodraeth a sicrhau bod arbenigwyr o’r diwydiant mewn rheolaeth wrth hyrwyddo cynnig twristiaeth unigryw Cymru.”