Bu farw ymgyrchydd iaith amlwg ac un o gymeriadau mawr ardal Wrecsam yn ei gartref yn Rhosllannerchrugog ddoe.
Roedd Ieuan Roberts, neu Ieu Rhos, yn 67 oed, ac mae ei farw wedi dod fel sioc i bobol yr ardal.
O ran ei ymgyrchu, fe ddaeth Ieuan Roberts yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y 1970au, gan ddod yn Ysgrifennydd arni, cyn symud yn ôl i fro ei febyd yn y Rhos.
Yn yr ardal honno, fe fu’n gweithio fel gyrrwr bws, ac roedd ynghlwm â sefydlu’r papur bro Nene yn 1978.
Yn ôl ei gydolygydd, Gareth Pritchard Hughes, “roedd o’n gefnogol i bopeth oedd yn ymwneud â’r iaith, ac yn barod bob amser i ymgyrchu a brwydro drosti.”
Arholiadau yn y jêl
Wrth dalu teyrnged i Ieuan Roberts, dywedodd Ffred Ffransis: “Chwithig meddwl am y galon a gurodd mor egnïol dros yr iaith, ei gymuned a chyfeillion oes wedi’i tharo’n fud. Ond fe bery’r angerdd a’r cyfeillgarwch.”
Ar wahân i fod yn Ysgrifennydd i’r Gymdeithas yn nechrau’r 70au, roedd Ieu Rhos yn gallu honni mai fo oedd yr unig aelod yn rhengoedd Cymdeithas yr Iaith i orfod sefyll ei arholiadau gradd yn y carchar.
“Fe gostiodd hynny’n ddrud iddo, ond nid oedd yn cwyno,” meddai Ffred Ffransis wedyn. “Roedd bron yn unigryw yn y cyfnod hefyd i fynd nôl i wasanaethu a gweithio yn ei gynefin yn Rhos lle bu’n deyrngar a thriw i’r mudiad iaith ac i Gymru – ac yn arbennig i’w gymuned, ar hyd ei oes.”
‘Ddim yn blwyfol – ond triw i’w blwyf’
Un arall oedd yn ei adnabod ers dros 30 mlynedd ydi’r newyddiadurwr a Chadeirydd y ganolfan Gymraeg, Saith Seren, yn Wrecsam, Marc Jones.
“Roedd yn ymgyrchydd dros yr iaith, sosialydd, gweriniaethwr, hanesydd lleol ac ymladdwr digyfaddawd dros ei filltir sgwâr, ei wlad a dynoliaeth,” meddai.
“Roedd o’n weithgar iawn efo’r ymgyrch leol i helpu efo’r ffoaduriaid, ac roedd yn weithgar efo pob peth, er ei fod yn ei chwedegau.
“Er ei fod yn foi ei filltir sgwâr ac yn gryf o ran y Gymraeg a Chymru, roedd ganddo weledigaeth eang. Doedd o ddim yn blwyfol er ei fod yn driw i’w blwyf,” meddai Marc Jones wedyn.
Roedd Ieuan Roberts wedi bod yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ychydig dros wythnos yn ôl, yn crwydro’r Maes ac yn mwynhau.