Mae tri o bobol wedi’u hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar ffordd yr A473 yn Llantrisant.
Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cylchfan Tonysguboriau yn Llantrisant, a Ffordd Gwaunmisgin, Beddau toc wedi 7 o’r gloch dydd Mawrth.
Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru fod tri o bobol wedi brifo, ac mai dau gar a motorbeic oedd yn rhan o’r digwyddiad am 7.06yb heddiw.