Dros yr wythnos nesaf, fe fydd y llythrennau A, B ac O yn diflannu o’r arwydd yng ngorsaf drên Llanfairpwllgwyngyll mewn ymgais i annog mwy i roi gwaed.

Ac fe fydd y llythrennau sy’n cynrychioli’r grwpiau gwaed hefyd yn diflannu o dirnodau adnabyddus ledled y byd.

Mae’r rhain yn cynnwys arwyddion y Table Mountain yn Ne Affrica, traeth Bondi yn Awstralia ac oddi ar arwyddion Bafta ym Mhrydain.

Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau a sefydliadau wedi ymrwymo i newid eu henwau dros dro gan gynnwys, Microsoft, Boots a Chlwb Pêl-droed Manceinion.

Bydd yr ymgyrch yn dechrau heddiw ac yn parhau am wythnos, ac fe ddaw yn sgil cwymp yn nifer y rhai sy’n rhoi gwaed.

Galw am A ac O negatif

Yn ôl ffigurau gan Uned Gwaed a Thrawsblannu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dim ond 11% o roddwyr gwaed oedd rhwng 17 a 24 oed y llynedd.

“Er bod y defnydd o waed yn gyffredinol yn ysbytai yn lleihau, mae angen mwy o roddwyr ifanc arnom i sicrhau parhad rhoddwyr gwaed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Mike Stredder, Cyfarwyddwr Rhoddwyr Gwaed y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd hefyd fod galw mawr am roddwyr newydd yn grŵp A negatif ac O negatif.

“Mae’n hollbwysig fod y gymuned rhoi gwaed yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth oherwydd mae grwpiau gwaed yn amrywio ar draws cymunedau ac mae angen gwaed sy’n gweddu’n dda ar gleifion,” meddai.