Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi dweud eu bod nhw’n edrych ar holl “bosibiliadau” er mwyn cynnal Pride Cymru yn y ddinas unwaith eto’r flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth tua 1,000 o bobol ymgynnull yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer y digwyddiad sy’n ddathliad o’r gymuned LGBT.


Fel rhan o’r digwyddiad eleni, roedd gorymdaith drwy’r brifddinas, a chyfres o ddigwyddiadau yng Nghae Cooper ger Gerddi Sophia.

Ond y flwyddyn nesaf fe fydd yr ardal yn cael ei defnyddio fel ffan-barth ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth bêl-droed Cynghrair y Pencampwyr, a’r gwaith o ail-osod glaswellt yn dechrau’r adeg hon y flwyddyn nesaf.

Bydd “heriau”, yn ôl Cyngor Caerdydd, wrth geisio dod o hyd i ddyddiad addas ar gyfer 2017.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cefnogi Pride Cymru, sef y dathliad mwyaf o amrywiaeth a chydraddoldeb yng Nghymru ers iddo gychwyn yn 1999. Mae Pride Cymru yn rhan o amserlen Gŵyl Caerdydd; dathliad blynyddol y Cyngor o dymor yr haf yn y ddinas, sy’n cynnwys cymorth marchnata sylweddol. “Nid yw’r cyngor wedi canslo digwyddiad 2017, ond mae heriau o ran rhai dyddiadau yn y dyddiadur ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae tîm Digwyddiadau’r cyngor wrthi’n asesu’r holl bosibiliadau eraill ar hyn o bryd, ac fe fyddent yn parhau i weithio’n agos gyda’r trefnwyr ac yn cefnogi’r digwyddiad.”