Er bod dau o brif undebau amaethyddol Cymru wedi croesawu cyhoeddiad y Trysorlys ddydd Sadwrn i warchod cyllidebau amaethyddol tan 2020, maen nhw’n dweud fod nifer o gwestiynau heb eu hateb o ran sefyllfa amaethwyr yng Nghymru.

Fe wnaeth y Canghellor Philip Hammond gadarnhau ddydd Sadwrn fod y Trysorlys am warantu cyllidebau amaethyddol cyfatebol i’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC) tan 2020.

Ychwanegodd Andrea Leadsom, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, y bydd unrhyw gynlluniau amaeth-amgylcheddol a gytunwyd arnynt cyn datganiad yr Hydref hefyd yn cael eu cyllido’n llawn.

Ond, yn ôl yr undebau, mae effaith hyn ar Gymru ac ardaloedd datganoledig eraill yn parhau’n “aneglur.”

Bydd cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn holi’r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r cyllidebau wrth iddi ymweld â fferm yn Llanfyrnach heddiw.

Ac fe fydd NFU Cymru yn ei holi ar faes Sioe Hwlffordd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

‘Codi cwestiynau mawr’

“Rydym yn aneglur ar sut y bydd hyn yn gweithio ar ardaloedd datganoledig ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cytundebau amaeth-amgylcheddol o dan Gynlluniau Datblygu Gwledig,” meddai Glyn Roberts, Llywydd UAC.

Esboniodd y byddai unrhyw gytundebau amaeth-amgylcheddol sy’n dechrau nawr yn rhedeg tan Awst 2021 ac “mae hyn yn codi cwestiynau mawr o ran cyllido a rhwymedigaethau cyfreithiol yn y cyfnod ar ôl cyhoeddiad y canghellor.”

Ychwanegodd Stephen James, Llywydd NFU Cymru, fod cyhoeddiad y Trysorlys yn “gadarnhaol” ond bod llawer o gwestiynau heb eu hateb.

Dywedodd y bydd yn gofyn i’r Ysgrifennydd Materion Gwledig beth fydd y goblygiadau ar bobl sydd eisoes wedi ymgeisio am Glastir Uwch 2017, ynghyd â chynlluniau gwledig eraill sydd ar y gweill.

Diciáu

Ac ar fferm yn Llanfyrnach heddiw, bydd Ysgrifennydd Materion Gwledig yn cyfarfod ag Islywydd UAC, Brian Thomas i drafod pwnc llosg arall i amaethwyr Cymru, sef y diciáu mewn gwartheg.

Dywedodd Brian Thomas y bydd yn pwysleisio’r angen i fynd i’r afael â’r diciáu mewn gwartheg gan bwysleisio ei effaith ar allforion Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydym yn gwybod y bydd ein cyfraddau presennol o TB yn achosi bygythiad mawr i allforion unwaith rydyn ni allan o’r UE, oni bai ein bod yn ymyrryd yn sylweddol i’w waredu,” meddai.