Mae deddf newydd yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr yr wythnos hon sy’n golygu y gallai gwerthwyr ‘cyllyll sombi’ wynebu carchar am werthu’r arfau.

Ar hyn o bryd, mae modd prynu’r ‘cyllyll sombi’ ar y we am gyn lleied â £10, ac fe allant fod mor fawr â dwy droedfedd o hyd gyda min danheddog ac wedi’u hysbrydoli gan ffilmiau arswyd.

O ddydd Iau ymlaen, fe allai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gwerthu’r cyllyll hyn wynebu hyd at bedair blynedd o garchar.

Bydd y gwaharddiad yn weithredol yng Nghymru a Lloegr, ac mae disgwyl i’r ddeddf gael ei gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

‘Cynnydd mewn troseddau cyllyll’

Daw’r gwaharddiad wrth i ffigurau amlygu fod yr heddlu’n cofnodi nifer cynyddol o droseddau’n ymwneud â chyllyll.

Fe wnaeth yr heddlu gofnodi 28,664 o droseddau’n ymwneud â chyllyll neu offer miniog yn y flwyddyn yn diweddu ym mis Mawrth eleni, ac roedd hynny’n gynnydd o 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae ‘cyllyll sombi’ yn swyno trais ac yn achosi niwed ofnadwy – does ganddyn nhw ddim lle yn ein cymdeithas,” meddai Sarah Newton, Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth San Steffan.