Mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad hiliol ar ddynes o Dwrci yn oriau mân fore Sadwrn.

Mae Heddlu Dorset yn dweud fod y dyn wedi cerdded at y wraig, sydd yn ei 20au, a gwneud sylw crefyddol cyn rhoi dwrn iddi yn ei hwyneb.

Fe ddigwyddodd hyn yn ardal Charminster o ddinas Bournemouth, tua 2.20yb ddydd Sadwrn. Er i’r ddynes gael ei chleisio gan y dwrn, ni fu’n rhaid iddi gael triniaeth feddygol.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw gan Heddlu Dorset fod dyn 55 oed o Bournemouth wedi’i arestio nos Sul ar amheuaeth o ymosod ar sail hil neu grefydd. Mae o’n parhau yn y ddalfa.