Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio i helpu darpar fyfyrwyr fydd yn darganfod nad oes ganddyn nhw le awtomatig mewn prifysgol ar ôl cyhoeddi canlyniadau Lefel A yr wythnos nesaf.

Mae’r canllaw dwy funud o hyd i’r broses glirio yn egluro’r camau y mae angen i ddarpar-fyfyrwyr eu cymryd os nad ydyn nhw wedi cael y graddau angenrheidiol.

Ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd, daeth tua 64,000 o unigolion o hyd i le mewn prifysgol drwy’r broses glirio – gyda Phrifysgol Aberystwyth yn ateb dros fil o alwadau gan fyfyrwyr yn chwilio am gyngor yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ôl Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Aberystwyth, David Moyle, nid oes stigma ynghlwm wrth wneud cais i brifysgol drwy’r broses glirio erbyn hyn.

“Rydyn ni’n deall bod gwneud cais i brifysgol drwy’r broses glirio yn gallu rhoi straen ar rai myfyrwyr, ond nod y tîm clirio ym Mhrifysgol Aberystwyth yw gwneud y broses mor hawdd â phosib drwy gynnig canllaw cam wrth gam i ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod o hyd i’r cwrs iawn ar eu cyfer.

“Mae gallu rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr yn hynod werthfawr. Ar ddiwrnod canlyniadau lefel A, rydyn ni i mewn erbyn 7 o’r gloch y bore – ac er ei fod yn ddiwrnod prysur i bawb, mae yna awyrgylch dda ymhlith y tîm. Rydyn ni i gyd yn gweithio at yr un diben, sef sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyngor gorau i’w galluogi i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.”

Mae’r ffilm ar gael i’w gwylio yma – (https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/clearing/clearing-tips/) – ac os oes unrhyw ddarpar fyfyriwr eisiau cyngor gan staff clirio Aberystwyth, nid yn unig ar ddiwrnod y canlyniadau ond drwy gydol y mis, y rhif hollbwysig yw 0800 121 40 80.